THE ALOHA SPIRIT (a.k.a. "The Little Pink Booklet of Aloha")
is provided for free distribution by The Aloha Project.


Hibiscus Flower

The Aloha Spirit - Welsh Version
by Serge Kahili King

translation by Ailsa Newton and Jeremy Evas

Athroniaeth Aloha
1 IKE - Y byd yw'ch ystyr chi o'r byd.
2 KALA - Nid oes cyfyngiadau.
3 MAKIA - Mae egni yn llifo lle mae sylw yn mynd.
4 MANAWA - Nawr yw adeg pŵer.
5 ALOHA - Ystyr caru yw bod yn hapus gyda...
6 MANA - Mae pob pŵer yn dod o'r tu fewn.
7 PONO - Effeithiolrwydd sy'n mesur gwirionedd.

Ysbryd Aloha
gan Serge Kahili King

Ysbryd Aloha yw'r agwedd dderbyngar, gyfeillgar y mae ynysoedd Hawaii yn enwog amdani. Fodd bynnag, mae hefyd yn cyfeirio at y ffordd effeithiol o ddatrys unrhyw broblem, cyflawni unrhyw nod, a hefyd i gyrraedd unrhyw stad o feddwl neu gorff yr hoffech chi fod ynddi.

Yn iaith Hawaii mae Aloha yn golygu mwy o lawer nag 'helo' neu 'hwyl fawr' neu 'cariad'. Ei ystyr dyfnach yw 'rhannu'(alo) egni bywyd (ha) yn llawen (oha) yn y presennol (alo).

Wrth i chi rannu'r egni hwn, rydych yn mynd yn un â'r Pŵer Dwyfol y mae pobl Hawaii yn ei alw'n 'Mana'. Ac wrth ddefnyddio'r Pŵer hwn yn gariadus fe ddewch o hyd i gyfrinach gwir iechyd, hapusrwydd a llwyddiant.

Mae'r ffordd o ddod o hyd i'r Pwer hwn ac i gael y Pwer i weithio o'ch plaid mor syml, efallai y byddwch yn ystyried ei fod yn rhy syml. Peidiwch â gadael i'ch hun gael eich twyllo.

Dyma'r dechneg fwyaf pwerus yn y byd, ac er ei bod yn syml iawn, efallai na fydd yn hawdd oherwydd bod yn rhaid cofio ei wneud ac mae'n rhaid ei wneud llawer.

Mae'n gyfrinach sydd wedi cael ei rhoi i'r ddynoliaeth drosodd a throsodd, a dyma hi eto ar ffurf arall.

Y gyfrinach yw :

Bendith ar pawb a phopeth sy'n cynrychioli yr hyn yr ydych ei eisiau!

Dyna'r cwbl sydd i'r gyfrinach. Er ei bod yn syml, mae angen peth esbonio.

Bendithio rhywbeth yw rhoi cynabyddiaeth neu bwyslais ar ansawdd, nodwedd neu gyflwr cadarnhaol, gyda'r bwriad y bydd yr hyn a gydnabyddir neu a bwysleisir yn cynyddu, parhau, neu'n dod i fodolaeth.

Mae bendithio yn effeithiol ar gyfer newid eich bywyd a chael yr hyn yr ydych ei eisiau, a hynny am dri rheswm.

Yn gyntaf mae pwyslais cadarnhaol eich meddwl yn ysgogi Pŵer cadarnhaol, creadigol y Bydysawd.

Yn ail, mae'n symud eich egni'ch hun i'r tu allan i'ch hun gan ganiatáu i fwy o'r Pŵer lifo trwyddoch.

Yn drydydd, wrth fendithio er lles rhywun arall yn lle er eich lles chi yn uniongyrchol, yr ydych yn dueddol o osgoi unrhyw ofn isymwybodol am yr hyn yr ydych eisiau i chi eich hun. A hefyd.

Mae'r focws ar fendithio yn creu yr un daioni yn eich bywyd eich chithau.

Yr hyn sydd mor brydferth am y broses yw hon wrth fendithio eraill rydych yn helpu eich nhw yn ogystal â chi.

Gall bendithio gael ei wneud drwy gyffwrdd neu ddelwedd, ond y ffordd fwyaf hawdd yw gyda geiriau. Dyma'r prif fathau o fendithio gyda geiriau :

Edmygedd - Gan roi canmoliaeth beu glod i rywbeth da yr ydych yn sylwi arno e.e. 'Dwi'n hoffi'r ffrog; rwyt ti'n gymaint o hwyl'.

Cadarnhad - Datgan yn benodol bod eich bendith ar rhywbeth i wneud i rywbeth barhau e.e. 'Rwy'n bendithio harddwch y goeden hon, bendith ar iechyd eich corff'

Gwerthfawrogiad - Datgan diolchgarwch bod rhywbeth da yn bodooli neu wedi digwydd. E.e 'Diolch, Dduw, am fy helpu, rwyf yn rhoi diolch i'r glaw am roi maeth i'r tir'

Edrych ymlaen - Dyma fendith am y dyfodol, e.e. 'Rydym yn mynd i gael pinic hyfryd, rwy'n bendithio dy incwm uwch, diolch am fy nghymar perffaith, rwy'n dymuno taith hapus i chi, boed i'r gwynt fod y tu Šl i chi bob amser'

Er mwyn cael y mwya o fendith bydd rhaid ildio neu docio ar yr un peth sydd yn ei wneud yn negyddol: melltithio.

Dydy hyn ddim yn golygu rhegi neu ddweud geiriau 'drwg'. Mae'n golygu'r gwrthwyneb i fendith - sef beirniadu yn lle edmygu, amau yn lle cadarnhau, beio yn lle gwerthfawrogi a phoeni yn lle edrych ymlaen gyda ymddiriedaeth.

Pryd bynnag y gwneir unrhyw rai o'r rhain, maent yn dueddol o ddileu rhai o effeithiau'r bendith. Felly po fwyaf y bydd rhywun yn melltithio

Po fwyaf anodd a hir y bydd i gael y daioni o fendith. Ar y llaw arall po fwyaf o'r bendith sydd yn cael ei wneud lleia'n byd o niwed wnaiff y melltithio.

Dyma rai syniadau am fendithio anghenion a phethau yr ydych eisiau : Iechyd - Bendithiwch bobl, anifeiliaid a hyd yn oed blanhigion sydd yn iach; unrhywbeth sydd wedi cael ei creu yn dda ac popeth sydd yn rhoi llawer o egni allan.

Hapusrwydd - Bendithiwch bopeth sydd yn dda, neu'r daioni mewn pobl, pob arwydd o hapusrwydd yr ydychn yn eu gweld, clywed neu deimlo mewn anifeiliaid, a'r holl botensial am hapusrwydd yr ydych yn sylwi arno o'ch cwmpas.

LLEWYRCH
Bendithiwch bob arwydd o lewyrch yn eich amgylchedd, gan gynnwys popeth y y gwnaeth arian helpu i'w wneud; yr holl arian sydd gennych ar ba ffurf bynnag; a'r holl arian sy'n cylchredeg yn y byd.

LLWYDDIANIANT - bendithiwch bob arwydd o gyflawni a chwblhau (fel adeiladau, pontydd neu chwareon), pob cyrhaeddiad mewn cyrchfan (wedi teithio ar long neu mewn car neu ar awyren), pob arwydd o symud ymlaen neu ddylfalbarhad neu fwynhad neu hwyl.

HYDER - bendithiwch bob arwydd o hyder mewn pobl, ac anifeiliaid; pob arwydd o gryfder mewn pobl a phethau (gan gynnwys dur a choncrit) pob arwydd o sefydlogrwydd (fel mynydd a choed tal) a phob arwydd o bwer pwrpasol (gan gynnwys peiriannau mawr a llinellau trydan).

Cariad a chyfeillgarwch - bendithwch bob arwydd o ofal, meithrin, cariad a chefnogaeth; pob perthynas sy'n cydgodrio mewn natur a phensaernïaeth; popeth sy'n gysylltiedig â neu'n cyffwrdd â rhywbeth arall yn feddal; pob arwydd o gydweithio pan yn chwarae neu gweithio; a phob arwydd o chwerthin a hwyl.

HEDDWCH MEWNOL - Bendithiwch bob arwydd o ddistawrwydd, llonyddwch, tawelwch a thangnefedd (fel dŵr tawel neu aer llonydd). Pob golwg bell (y gorwel, y sêr a'r lleuad); pob arwydd o prydferthwch gweld, clywed neu gyffwrdd, lliwiau a siapiau clir, maylion gwrthrychau naturiol neu wneuthuredig.

TYFIANT YSBRYDOL - Bendithiwch bob arwydd o dyfiant, datblygiad a newid mewn Natur; y trawsnewid rhwng gwawr a chyfnos; symudiad yr haul, y lleuad, planedau a'r sêr, a symudiad y gwynt a'r môr.

Mae'r synidau blaenorol i'w defnyddio fel canllawi os nad ydych wedi arfer â bendithio, ond peidiwch â chael eich cyfyngu ganddynt. Cofiwch fod modd i unrhyw ansawdd, nodwedd neu gyflwr gael ei bendithio (e.e. gallwch fendithio polyn neu anifail tenau er mwyn annog colli pwysau), p'un a yw wedi bodoli, yn bodoli ar hyn o bryd, neu'n bodoli hyd yn hyn yn eich dychymyg yn unig.

Yn bersonol, rwyf wedi defnyddio pŵer bendithio i iacháu fy nghorff, i gynyddu fy incwm, i ddatblygu llawer o sgiliau, i gredu perthynasa gariadus iawn â'm gwraig a'n plant, ac i sefydlu rhwydwaith byd-eang o heddychwyr sy'n gweithio ag ysbryd aloha. Oherwydd iddi weithio i fi, rwyf am ei rhannu gyda chi.

SUT MAE GWNEUD EICH PŴER I FENDITHIO'N FWY

Mae techneg sy'n cael ei defnyddio gan shamaniaid yn Hawaii sydd yn rho mwy o bwer i chi fendithio drwy wneud eich egni yn fwy.

Mae'n ffordd syml o anadlu sydd hefyd yn cael ei defnyddio ar gyfer mynd yn un â'r tir, efrydu, ac iacháu. Does dim angen bod mewn lle arbennig neu sefyll mewn unrhyw ffordd arbennig. Gallwch ei wneud wrth symud, neu wrth sefyll yn stond, â llygaid ar agor neu ar gau.

Yn iaith Hawaii, enw'r dechneg yw pikopiko oherwydd bod pino yn golygu corun y pen a'r bogail.

Y Dechneg
1. Ymgyfarwyddwch â'r anadlu naturiol.
2. Dewch o hyd i gorun eich pen a'ch bogail drwy ymwybyddiaeth a/neu gyffwrdd.
3. Nawrt, wrth i chi anadlu i mewn rhowch eich sylw ar eich corun ac wrth i chi anadlu allan rhowch eich sylw ar eich bogail.
4. Wrth i chi ymlacio, a wed i chi ganoli a/neu egnïo, dechreuwch ddychmygu bod cwmwl anweladwy o oleuni o'ch gwmpas, neu faes electromagnetig, a bod eich anadlu yn cynyddu egni'r maes neu'r cwmwl hwn.
5. Wrth i chi fendithio, dychmygwch fod testun eich bendith wedi'i amgylchynu â peth o'r un egni sy'n eich amgylchynu chithau.

AMRYWIADAU
a. Yn lle'r corun a'r bogail, symudwch eich sylw o ysgwyd i ysgwydd neu o'r awyr i'r ddaear.
b. Er mwyn helpu i ganolbwyntio'r maes egni, meddyliwch amdani fel lliw, goslef neu neu ddarn o gerddoniaeth neu dingl.


The Aloha Project
huna@huna.org